1.        Mae'r ymateb hwn yn nodi ein barn ar ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hawliau pleidleisio i garcharorion. Rydym yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn fel rhan o'n rôl statudol i barhau i adolygu cyfraith etholiadol ac argymell newidiadau os credwn fod angen eu cyflwyno.

2.        Nid oes gennym farn ynghylch p'un a ddylai fod gan garcharorion hawl i bleidleisio ai peidio. Mater polisi cyfansoddiadol yw hwn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn gyfrifol am benderfynu yn ei gylch. Felly, mae ein hymateb yn canolbwyntio ar y goblygiadau ymarferol petai carcharorion yng Nghymru yn cael yr hawl i bleidleisio.

3.        Dylai unrhyw ddeddfwriaeth ddod i rym chwe mis cyn i'r canfas blynyddol ddechrau fan bellaf. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynllunio'r newidiadau a'u rhoi ar waith, ar gyfer y canfas ac ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Y sefyllfa bresennol

4.        Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn ystyried p'un a ddylai carcharorion penodol o Gymru allu pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac maent wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch y mater hwn o'r blaen. 

5.        O dan y ddeddfwriaeth bresennol, nid oes gan garcharorion a gedwir yn y ddalfa hawl i gael eu cofrestru i bleidleisio am eu bod yn anghymwys i bleidleisio yn gyfreithiol. Fodd bynnag, mae rhai carcharorion yn gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd: 

·                Carcharorion heb eu heuogfarnu (h.y. y rhai sydd ar remand).

·                Carcharorion sydd wedi'u collfarnu ond heb gael eu dedfrydu.

·                Unigolion a garcharwyd am ddirmyg llys neu o dan Reol Carchar 7(3) 2. [1]

·                Y rhai sydd yn y carchar am beidio â thalu swm o arian, y bernir ei fod wedi'i dalu ar adeg euogfarnu.

Materion ymarferol sy'n gysylltiedig â rhoi'r hawl i garcharorion bleidleisio 

Cymhwysedd

6.        Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried p'un a ddylid rhagnodi'r meini prawf ar gyfer rhoi'r hawl i garcharorion bleidleisio i gynnwys, er enghraifft, hyd y ddedfryd, natur y drosedd a phrawf o fod wedi byw yng Nghymru o'r blaen.

7.        Gan mai man preswylio yw un o'r prif feini prawf ar gyfer cofrestru etholiadol, bydd angen ystyried o dan ba gyfeiriad y byddai carcharorion yn cael eu cofrestru. Er enghraifft, petai unrhyw garcharorion cymwys yn cofrestru i bleidleisio yng nghyfeiriad y carchar, gallai hyn olygu y byddai carcharorion sydd wedi'u cofrestru yn ffurfio cyfran sylweddol o'r etholaeth yn y ward lle mae'r carchar wedi'i leoli.

8.        Gan mai dim ond o ganlyniad i'w dedfryd y mae carcharorion yn bresennol yng nghyfeiriad y carchar, opsiwn arall fyddai i garcharorion gofrestru mewn cyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad bwriadedig. Un categori o etholwyr nad ydynt yn byw yn eu cyfeiriad arferol yn y DU sydd eisoes yn bodoli yw pleidleiswyr o'r lluoedd arfog. Ym mharagraff 27, amlinellwn y broses ar gyfer cofrestru pleidleiswyr o'r lluoedd arfog. Gellid dilyn dull tebyg ar gyfer cofrestru carcharorion.

9.        Bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol allu pennu p'un a yw carcharor yn gymwys i gofrestru, gan ei bod yn bosibl na fydd pob carcharor yn bodloni'r meini prawf cymhwyso. Er enghraifft, gall y Cynulliad Cenedlaethol ddewis etholfreinio'r carcharorion hynny sy'n bwrw dedfrydau sy'n llai na hyd penodedig, neu barhau i wahardd carcharorion sy'n bwrw dedfrydau mewn perthynas â throseddau penodedig rhag pleidleisio. Yn yr achos hwnnw, byddai angen cadarnhau manylion dedfryd unigolyn yn y carchar er mwyn pennu p'un a yw'n gymwys i bleidleisio.

10.     Er mwyn pennu cymhwysedd yn glir ac yn syml, gallai fod yn ddefnyddiol llunio ‘ffurflen cais i gofrestru’ ar gyfer carcharorion. Gallai'r ffurflen hon fod yn debyg i'r cais i gofrestru fel etholwr dienw, neu'n debyg i'r datganiad o gysylltiad lleol a ddefnyddir ar gyfer carcharorion remand ac sy'n cynnwys gofyniad ardystio.

11.     Os bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadarnhau hyd dedfryd neu unrhyw fanylion arall amdani, gellid gwneud hyn drwy ryw fath o ardystio. Gallai lefel y staff carchar a allai ardystio'r ceisiadau hyn gael ei rhagnodi, fel y gwneir ar gyfer rhengoedd penodol yn yr heddlu mewn perthynas â chofrestru'n ddienw. Dylai'r lefel a ragnodir fod yn ddigon isel i sicrhau nad yw'r broses gofrestru'n dibynnu ar nifer rhy fach o bobl, ond yn ddigon uchel i sicrhau y bydd yr ardystiwr yn gwybod pwy all gofrestru a phwy na all gofrestru, a byddai awdurdod sylweddol yn gysylltiedig â hi.

 

 

12.     Ceir risg na fydd carcharorion yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen er mwyn profi pwy ydyn nhw fel rhan o'u cais i gofrestru i bleidleisio, fel eu rhif yswiriant gwladol neu unrhyw dystiolaeth ddogfennol arall. Felly, byddai angen ystyried ffyrdd amgen i garcharorion brofi pwy ydyn nhw er mwyn iddynt allu cofrestru.

Sut y byddai carcharorion yn bwrw eu pleidlais

Mewn gorsaf bleidleisio

13.     Byddai sefydlu gorsafoedd pleidleisio mewn carchardai yn anodd iawn yn logistaidd, a byddai angen llawer o adnoddau i wneud hynny. Er enghraifft, byddai gwneud yn siŵr bod pob carcharor yn cael y papurau pleidleisio cywir ar gyfer ei gyfeiriad cofrestredig, a bod y papurau pleidleisio wedi'u cwblhau yn cael eu dychwelyd i'r wardiau neu'r etholaethau cywir cyn y cyfrif, yn anodd yn ymarferol.

14.     Petai gorsafoedd pleidleisio yn cael eu sefydlu mewn carchardai, byddai angen ystyried sut i gynnal uniondeb y broses bleidleisio, gan sicrhau y gall y pleidleisiwr fwrw ei bleidlais yn gyfrinachol. Hefyd, byddai angen i'r holl ddeunyddiau i bleidleiswyr a'r blychau pleidleisio gael eu cadw'n ddiogel bob amser. Ceir cwestiynau ynghylch pwy a fyddai'n rhedeg yr orsaf bleidleisio a sut y byddai'r bobl hynny'n cael eu hyfforddi.

15.     O ystyried yr heriau ymarferol a nodir uchod, nid ydym yn argymell sefydlu gorsafoedd pleidleisio mewn carchardai. Felly, byddai hyn yn golygu y byddai angen i garcharorion ddibynnu ar ddulliau pleidleisio absennol, fel pleidleisio drwy'r post neu bleidleisio drwy ddirprwy.

16.     Ar hyn o bryd, ystyrir bod carcharorion ar remand yn etholwyr categori arbennig, a dim ond drwy'r post neu drwy ddirprwy y gallant bleidleisio.   

Drwy'r post

17.     Ceir cyfnod cymharol fyr rhwng dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post gan Swyddogion Canlyniadau a'r terfyn amser ar gyfer dychwelyd pleidlais drwy'r post mewn pryd iddi gael ei chyfrif. Felly, byddai angen i Wasanaeth Carchardai EM – Cymru sicrhau y byddai ei drefniadau presennol ar gyfer prosesu post carcharorion yn galluogi carcharorion i dderbyn a dychwelyd eu pleidleisiau post o fewn y terfyn amser angenrheidiol.

18.     Petai gan garcharorion hawl i bleidleisio drwy'r post, byddem yn disgwyl bod mesurau diogelu angenrheidiol ar waith er mwyn iddynt allu cwblhau eu pecyn pleidleisio drwy'r post yn gyfrinachol. Gellir cyflawni hyn drwy gynnwys geiriad penodol yn y ddeddfwriaeth neu gael sicrwydd gan y gwasanaeth carchardai y bydd hyn yn digwydd.  


 

Drwy ddirprwy

19.     Petai carcharorion yn gallu pleidleisio drwy ddirprwy, ni ddylai fod yn ofynnol i'w cais gael ei ardystio, fel sy'n ofynnol ar gyfer pleidleiswyr tramor a phleidleiswyr o'r lluoedd arfog. Y rheswm dros hyn yw bod y ffaith eu bod yn y carchar yn rheswm digonol pam na all y pleidleiswyr hyn fynd i'w gorsafoedd pleidleisio. 

Darparu gwybodaeth

20.     Os bydd rhai carcharorion yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru yn y dyfodol, bydd yn bwysig sicrhau eu bod yn gwybod eu bod yn gallu pleidleisio a sut i gofrestru a bwrw pleidlais. Byddai'r Comisiwn yn disgwyl gweithio gyda llywodraethau a'r gwasanaeth carchardai i ystyried sut y byddai rhaglen codi ymwybyddiaeth yn cael ei chyflawni er mwyn galluogi hyn.

21.     Byddai angen i swyddogion carchardai gael eu hyfforddi er mwyn iddynt allu helpu carcharorion, a gallai arwyddion sy'n cynnwys gwybodaeth am hawliau pleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio a phleidleisio gael eu harddangos mewn rhannau perthnasol o'r carchar. Dylai carcharorion sy'n anabl neu sydd ag unrhyw anawsterau dysgu allu cael cymorth i lenwi ffurflenni os byddant yn gofyn amdano. Byddem yn fwy na pharod i ystyried, ar y cyd â'r gwasanaeth carchardai, y camau ymarferol y gallai eu cymryd er mwyn helpu carcharorion i bleidleisio a byddwn yn rhoi cyngor ar y deunyddiau y gallai eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth.

Mynediad at ddadleuon ymgyrchu

22.     Os bydd carcharorion yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru bydd yn rhaid iddynt allu cael gafael ar wybodaeth am bolisïau ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr eraill er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad hyddysg wrth bleidleisio. Byddai angen i'r gwasanaeth carchardai ystyried sut y byddai hyn yn cael ei wneud.

Materion trawsffiniol a fydd yn codi pan fydd carcharorion o Gymru wedi'u carcharu yn Lloegr

23.     Gan mai preswylio yw un o'r prif feini prawf ar gyfer cofrestru, bydd angen ystyried yn ofalus sut i gofrestru pobl sydd wedi byw neu gofrestru i bleidleisio yng Nghymru o'r blaen ond sy'n bwrw tymor yn y carchar mewn carchar yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Petai carcharorion wedi'u cofrestru i bleidleisio yng nghyfeiriad y carchar, gallai hyn gael effaith anghymesur ar yr etholaeth yn y ward lle mae'r carchar wedi'i leoli. Byddai hefyd yn golygu na fyddai carcharorion o Gymru sydd mewn carchardai yn Lloegr yn gallu pleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru.

24.     Gallai gadael i garcharorion gofrestru mewn perthynas â chyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad bwriadedig yng Nghymru helpu i fynd i'r afael â hyn.     

Ystyriaethau arbennig ar gyfer troseddwyr ifanc yn y ddalfa os caiff yr etholfraint ei hymestyn i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn gyffredinol

25.     Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu i ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed. Golyga hyn y bydd y gofrestr llywodraeth leol yn cynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed fel etholwyr llawn. Hefyd, bydd gan bobl ifanc 15 oed a rhai sy'n 14 oed hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr fel ‘cyrhaeddwyr’.

26.     Os caiff yr etholfraint ei hymestyn ymhellach i gynnwys carcharorion, byddai angen i'r gwasanaeth carchardai roi gwybodaeth a chymorth mewn perthynas â'r hawl i gofrestru i bleidleisio i bobl ifanc 15, 16 ac 17 oed yn y ddalfa, a'u hannog i wneud cais i gofrestru ar-lein. 

Enghraifft o gategori arbennig o etholwyr sydd eisoes yn bodoli – pleidleiswyr o'r
lluoedd arfog

27.     Mae'r broses bresennol ar gyfer cofrestru Lluoedd EM fel pleidleiswyr o'r lluoedd arfog yn enghraifft o system a ddefnyddir i gofrestru grŵp penodol o bobl nad ydynt yn byw yn eu cyfeiriad arferol yn y DU.   

28.     Mae pleidleiswyr o Luoedd EM yn cwblhau datganiad gwasanaeth sy'n nodi naill ai'r cyfeiriad lle maent yn byw yn y DU, y cyfeiriad lle y byddent wedi bod yn byw os ydynt yn gwasanaethu dramor neu, os nad yw'r naill na'r llall ganddynt, cyfeiriad lle maent wedi byw yn y DU.

29.     Mae'r cais i gofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog wedi'i ragnodi ac mae'n wahanol i'r ffurflen safonol ar gyfer gwneud cais i gofrestru. Caiff pob cais i gofrestru ei brosesu gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n pennu p'un a oes gan yr ymgeisydd hawl i gael ei gofrestru. Os oes ganddo hawl, caiff gwybodaeth am bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy ei rhoi iddo fel arfer gan ei bod yn debygol nad yw'n gallu pleidleisio'n bersonol.

30.     Yn achos pleidleiswyr o'r lluoedd arfog, mae gan bob uned o'r lluoedd arfog aelod dynodedig o staff sy'n gweithredu fel Swyddog Cofrestru Uned. Mae cadlywydd pob gorsaf yn cynorthwyo'r Swyddogion Cofrestru Uned ac aelodau eraill o bersonél yn ei uned i hyrwyddo cyfranogiad yn y broses etholiadol.

 

 

31.     Caiff pleidleiswyr o Luoedd EM eu rhestru fel ‘etholwyr eraill’ ar y gofrestr pan nad oes ganddynt gysylltiad â'u cyfeiriad cymhwyso mwyach.

Dulliau gweithredu gwledydd eraill mewn perthynas â rhoi'r hawl i garcharorion bleidleisio: Canada

32.     Yng Nghanada, gall pobl a fydd yn 18 oed neu drosodd ar y diwrnod pleidleisio, ac sydd mewn sefydliad cywirol neu garchar ffederal yng Nghanada, bleidleisio drwy bleidlais arbennig mewn etholiad neu refferendwm.

33.     Ym mhob sefydliad, caiff aelod o staff ei benodi'n swyddog cyswllt a fydd yn hwyluso'r broses o gofrestru a phleidleisio.

34.     At ddibenion etholiadol, nid y sefydliad lle mae'r pleidleisiwr sydd wedi'i garcharu yn bwrw dedfryd yw ei fan preswylio arferol. Ei fan preswylio arferol yw naill ai:

·                ei gyfeiriad cyn cael ei garcharu

·                cyfeiriad priod, partner cydnabyddedig, perthynas neu ddibynnydd yr etholwr, perthynas i'w briod neu bartner cydnabyddedig neu rywun y byddai'r etholwr yn byw gydag ef pe na bai wedi'i garcharu;

·                y man lle y cafodd ei arestio;  neu

·                y llys diwethaf lle y cafodd yr etholwr ei euogfarnu a'i ddedfrydu.

35.     Er mwyn cofrestru i bleidleisio, rhaid i'r etholwr sydd wedi'i garcharu lenwi ffurflen Cais ar gyfer Cofrestru a Phleidlais Arbennig, a gaiff ei hanfon at y swyddog cyswllt i'w dilysu.

36.     Yn ystod etholiad cyffredinol neu refferendwm, mae carcharorion cymwys yn pleidleisio yn eu carchar ar y degfed diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio. Caiff gorsaf bleidleisio ei sefydlu o 9am ymlaen, a bydd yn aros ar agor nes bod pawb sydd am bleidleisio wedi gwneud hynny, ond rhaid iddi gau erbyn 8pm fan bellaf.

37.     Yr etholwr sy'n gyfrifol am anfon ei bapur pleidleisio i Elections Canada cyn 6pm ar y diwrnod pleidleisio. Gall ei anfon ei hun neu ei adael gyda'r dirprwy swyddog canlyniadau i'w anfon ymlaen drwy drefniant arbennig.

38.     Caiff papurau pleidleisio carcharorion eu cyfrif ar yr un pryd â rhai trigolion eraill sy'n absennol o'u rhanbarth etholiadol. Ar ddiwedd y noson bleidleisio, caiff pleidleisiau arbennig eu hychwanegu at gyfanswm y pleidleisiau ar gyfer pob rhanbarth.

39.     Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Elections Canada: (http://www.elections.ca/content.aspx?section=vot&dir=bkg&document=ec90545&lang=e)



[1] http://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/728/article/7/made